Lleoliad:
Fideo Gynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Mai 2021
Amser:
10.03 -
11.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o unrhyw gyfarfod yn y dyfodol lle y trafodir materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Senedd.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
3 Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor
3.1 Ffyrdd o weithio
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod fel arfer am 9.00am ar ddydd Mawrth yn ystod wythnosau eistedd, ac i wneud hynny'n breifat drwy gydol y Chweched Senedd er mwyn trafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu'r Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi Agendâu cyfarfodydd preifat, a hefyd y dylai cofnodion cyfarfodydd preifat gael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg o fewn wythnos i'r Pwyllgor gytuno arnynt.
4 Trefn Busnes
4.1 Amserlen y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd grwpiau’r pleidiau ar gyfer gweddill tymor yr haf, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2021 a dyddiadau dros dro ar gyfer toriadau tan fis Chwefror 2022.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Cwestiynau Llafar i’r Gweinidogion, a chytunodd ar amserlen y Cwestiynau Llafar i Gomisiwn y Senedd.
Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y cytunir ar amserlen y pwyllgorau ar ôl cadarnhau strwythur pwyllgorau newydd.
4.2 Y Defnydd o Amser y Senedd yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu un neu ddwy awr o ddadleuon y gwrthbleidiau bob wythnos, ac y caiff yr amser ei ddyrannu mewn blociau o awr mewn cymhareb o 16:13 i grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn y drefn honno.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol hefyd:
· parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Dadleuon Aelodau hyd at bob yn ail wythnos;
· parhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn y Bumed Senedd ar gyfer amserlennu Cynigion Deddfwriaethol Aelodau o leiaf unwaith bob hanner tymor;
· dyrannu 20 munud o Fusnes y Senedd bob wythnos ar gyfer Cwestiynau Amserol;
· dyrannu 5 munud o Fusnes y Senedd bob wythnos ar gyfer Datganiadau 90 Eiliad;
· cynnal Dadl Fer fel yr eitem olaf o fusnes bob dydd Mercher ac i ddyrannu 30 munud iddi; ac
· y dylai dadleuon gwrthbleidiau, pwyllgorau a'r Aelodau gael eu hamserlennu ar gyfer cyfnod o awr yr un fel arfer, gan fod y Senedd bellach yn cyfarfod ar ffurf hybrid eto.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor ei bod yn bwriadu cynnal balot ar gyfer Bil Aelod yn ystod yr hanner tymor nesaf.
Cynigiodd y Llywydd 'ddadl fawreddog' i'w chynnal unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac yng ngoleuni cefnogaeth y Pwyllgor, gofynnodd i swyddogion lunio cynigion. Gofynnodd y Llywydd hefyd i'r Rheolwyr Busnes drafod syniadau am eitemau newydd o fusnes y Senedd gyda'u grwpiau.
5 Comisiwn y Senedd
5.1 Comisiwn y Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
6 Pwyllgorau
6.1 Sefydlu pwyllgor interim at ddibenion Rheol Sefydlog 21
Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd Nodiadau Cyngor Cyfreithiol yn cael eu paratoi er mwyn helpu i lywio dadleuon ar 26 Mai ar gynigion i gymeradwyo offerynnau statudol gwneud cadarnhaol a chytunwyd mewn egwyddor i sefydlu pwyllgor interim ar gyfer craffu ar offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol interim gyda phedwar aelod (gan gynnwys y Cadeirydd), gydag un aelod o'r Grŵp Llafur, un o grŵp y Ceidwadwyr ac un o grŵp Plaid Cymru, yn ogystal â'r Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion perthnasol i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mai.
Unrhyw faterion eraill
Strwythur Pwyllgorau
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor y bydd papur cychwynnol ar strwythur pwyllgorau newydd ar agenda'r cyfarfod ddydd Mawrth, ac y bydd yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor dros yr wythnosau nesaf.